Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (214) |
Datganiad y Llywydd: Ymgysylltu â Phobl Ifanc (5 munud)
Dechreuodd yr eitem am 13.37
Gwnaeth y Llywydd ddatganiad yn lansio’r dull newydd o ymgysylltu â phobl ifanc. Esboniodd mai’r weledigaeth yw bod barn pobl ifanc yn cael ei chynnwys ym mhob agwedd ar waith y Cynulliad, ac y bydd tair rhan i’r dull o ymgysylltu â phobl ifanc. Y rhan gyntaf fydd ymestyn allan: bydd pobl ifanc yn cael eu hannog i gymryd rhan pwy bynnag ydynt ac ym mhle bynnag y maent. Yr ail ran fydd annog trafodaeth: byddwn yn darparu amrywiaeth o ffyrdd i bobl ifanc gymryd rhan yn ein gwaith. Y drydedd ran fydd adborth: byddwn yn esbonio i bobl ifanc sut y mae eu cyfraniadau yn gwneud gwahaniaeth, fel eu bod hwy ac eraill yn cael eu hysbrydoli i ymgysylltu rhagor. Yna galwodd y Llywydd ar arweinwyr y pleidiau, a wnaeth ddatganiadau yn amlinellu ymrwymiad eu grwpiau gwleidyddol i ymgysylltu â phobl ifanc..
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid
Dechreuodd yr eitem am 13.43
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 3 a 7 eu grwpio. Cafodd cwestiynau 11 ac 13 eu grwpio.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Dechreuodd yr eitem am 14.29
Gofynnwyd y 15 cwestiwn.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Dechreuodd yr eitem am 15.07
Gofynnwyd y cwestiwn.
4 Datganiad gan Bethan Jenkins: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod – y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.15
5 Dadl ar Adroddiad Comisiwn y Cynulliad ynghylch y Cynllun Ieithoedd Swyddogol
Dechreuodd yr eitem am 15.53
NDM5556 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:
Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd
Dechreuodd yr eitem am 16.26
7 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch argaeledd gwasanaethau bariatrig
Dechreuodd yr eitem am 17.06
NDM5557 David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar argaeledd gwasanaethau bariatrig, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Cyllid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 17.48
NDM5558 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Cyllid Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfnod Pleidleisio
Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio.
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.25
NDM5559 Eluned Parrott (Canol De Cymru): Chwarae teg? Amser i ymgynghori ar daliadau comisiwn tecach wrth werthu cartrefi mewn parciau.
Bydd y ddadl yn canolbwyntio ar y taliadau comisiwn sy’n daladwy i berchnogion safleoedd pan fo perchnogion cartrefi mewn parciau yn gwerthu eu heiddo.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.46
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 16 Medi 2014